Cylch Meithrin bach ydym ni gydag uchafswm o 16 o blant y sesiwn. Rydym yn croesawu plant o 2 hyd at oed ysgol.

Rydym yn cael ein harolygu gan AGC ac yn ddarparwr Addysg blynyddoedd cynnar ac felly yn cael ein harolygu gan ESTYN hefyd.

Mae’r Cylch yn cael ei reoli gan bwyllgor o rieni yn wirfoddol sy’n cyflogi 4 aelod o staff cymwys llawn amser a staff banc yn achlysurol. Sicrhawn fod y staff yn mynychu hyfforddiant cyson i ddiweddaru eu gwybodaeth. Mae croeso i rieni gysylltu â’r Cylch i drefnu ymweliad i gwrdd â’r staff.

Gweithgareddau: 

Rydym yn rhoi'r cyfle i bob plentyn gymryd rhan ym mhob math o weithgareddau. Maent yn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg. Mae’r drysau allanol ar agor bob dydd ym mhob math o dywydd ac mae’r plant yn cael gwisgo dillad gwlyb ac esgidiau glaw.

Mae gennym ardal allanol arbennig ac o faint sylweddol iawn sy’n cynnig llawer iawn o wahanol weithgareddau. Mae’r ardal allanol yn cynnig cyfleoedd i'r plant i ddringo, archwilio, plannu planhigion a llysiau a'u cynaeafu, beicio, marcio a rhifo. Mae’r plant wrth eu boddau yn coginio yn y gegin fwd a thorri per lysiau gyda sisyrnau. Mae sied fawr yn yr ardal allanol ac rydym yn newid y thema bob tymor. Mae’r sied wedi bod yn Groto Sion Corn, Siop Gwyliau, Sied Ioga, ac Iglw.

Mae gennym fainc bren i’r plant tair oed i gael y cyfle i wneud gwaith coed ac i greu eitemau unigryw eu hunain. Mae hyn yn ffordd o ddatblygu hunan hyder, sgiliau manwl a chymryd risg trwy ddefnyddio llif, morthwyl ac ati. Tu fewn mae’r plant yn cael y cyfle i beintio, tynnu lluniau, chwarae yn y gegin, defnyddio apiau Cymraeg addysgiadol ar yr ipad's ac hefyd ar y sgrin fawr. Maent yn cael cyfleoedd gwahanol bob wythnos ar y ‘tuff tray’ hefyd.

Adeg amser cylch rydym yn ymarfer ysgrifennu enwau gyda’r plant, trafod teimladau , canu a chael stori. Mae’r plant yn canu yn neuadd y pentref pan fydd y gymuned yn trefnu noson gymunedol i'r pentref. Mae’r plant hefyd yn cael y cyfle i fynd i'r ysgol gymunedol i gael sesiynau pontio a gwneud gweithgareddau yno. Rydym yn mynd ar dripiau hefyd yn ystod y flwyddyn.

Oriau / Ffioedd:

08:30yb - 09:00yb £2

09:00yb - 11:30yb £10

11:30yb - 1:15yp £7

1:15yp - 3:45yp £10

(yn ystod y tymor yn unig)

Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth os ydych yn gymwys i wneud.

Mae Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid ar agor yn ystod y tymor yn unig ac yn derbyn plant ar gyfer pob sesiwn drwy gydol bob dydd o’u penblwydd yn ddwy oed tan y tymor ar ôl iddynt droi’n 4 (oedran cychwyn ysgol).
 
Mae'r Cylch yn ddarparwr Dechrau'n Deg ac mae plant cymwys yn gallu cael mynediad at 12.5 awr wedi'u hariannu o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 2 oed am flwyddyn, cysylltwch â'r Cylch i drafod (mae'r ddarpariaeth yn ddibynnol ar y cod post).
 
Mae mwyafrif o'r plant yn gymwys i gael 10 awr o oriau addysg gynnar wedi'u hariannu (2.5 awr bob bore) o'r tymor ar ôl eu penblwydd yn dair.  Os yn gymwys, gall rhieni a gwarchodwyr wneud cais am hyd at 20 awr ychwanegol o ofal plant wedi'u ariannu - cofrestrwch yma.

Lleoliad 

Neuadd Pantyfedwen Hall

Pontrhydfendigaid

Ystrad Meurig

SY25 6BB

  • Gweneira

    Arweinydd (ar gyfnod famolaeth)

    Fy enw yw Gweneira Fflur Davies neu Miss Gwen i'r plant. Adref, Mam yw fy enw. Rwyf yn arweinyddes yng Nghylch Meithrin Pontrhydfendigaid ers y flwyddyn 2020. Rwy’n byw ym Mhontrhydfendigaid ac roeddwn yn ddisgybl yma yn y Cylch Meithrin ac hefyd yn Ysgol Gymunedol Pontrhydfendigaid. Rwyf wedi cael fy magu yma yn y pentref. Yn y flwyddyn 2023 fe enillais wobr Mudiad Meithrin am Arweinyddes gorau Cymru ac hefyd fe enillodd y Cylch Meithrin y Cylch gorau yng Nghymru! Fy hobïau ydy nofio, cerdded a gwylio rasio ceir. Rwy’n berson sy’n treulio llawer o amser gyda fy nheulu hefyd. Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn y Cylch a threulio amser yng nghwmni'r plant a’u gweld yn datblygu o ddydd i ddydd.

  • Siobhan

    Arweinydd (Cyfnod Mamolaeth)

    Fy enw i yw Siobhan Durber, gynorthwyydd yng Nghylch Meithrin Pontrhydfendigaid. Dw i'n byw ym Mhontrhydfendigaid gyda fy ngŵr a 3 o blant ifanc. Mae pob un o'r 3 wedi mynychu Cylch Meithrin Bont. Gwnes i fy nghwrs lefel 3 mewn gofal plant yn syth ar ôl yr ysgol. Dechreuais weithio'n wirfoddol fel staff banc. Byddaf wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd am 3 blynedd eleni. Rwyf wrth fy modd yn bod yn yr awyr agored ac unrhyw beth crefftus, os yw eich plant yn dod adre gyda glitter, mae'n debyg bai fi i yw hynny! Yn fy amser hamdden, rwyf wrth fy modd yn gwersylla a bod ar bwys y môr ac unrhyw beth sy'n golygu bod gyda fy mhlant. Ar hyn o bryd rwy’n hyfforddi i fod yn arweinydd ysgol y goedwig. Mae dod â sesiynau ysgol y goedwig i Gylch Meithrin Bont yn rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono. Mae'n teimlo'n ffodus iawn i weithio yma ac rwy'n cael cymaint o lawenydd o weld plant yn tyfu a dysgu cymaint yn ein Cylch hyfryd.

  • Angharad

    Cynorthwyydd

    Helo, Angharad Jones ydw i'n byw ym Mhontrhydfendigaid ac mae gen i 2 o blant. Rwy'n gweithio'n rhan amser yng Nghylch Meithrin Pontrhydfendigaid fel cynorthwyydd. Mae gen i swydd ran-amser yn ysgol gynradd Pontrhydfendigaid hefyd. Fy iaith gyntaf yw'r Gymraeg a fy hobïau yw coginio, posau, cerdded fy nghi, a hoffwn ddysgu sut i crosio.

  • Catrin (Miss Cats)

    Cynorthwyydd

    Fy enw i yw Catrin v(Miss Cats), dwi’n fam i ddau o blant ac yn joio mynd am dro gyda nhw. Fi’n hoffi cefnogi y plant yn y cylch i datblygu. Dwi’n joio creu cyfleoedd dysgu newydd i’r plant a gweithio fel tîm.

  • Catrin

    Cynorthwyydd Dan Hyfforddiant

    Fy enw i yw Catrin Williams ac rwyf wedi bod yn gweithio yng Nghylch Meithrin Pontrhydfendigaid ers 2022 fel staff banc ac yn mwynhau pob munud yn y Cylch. Dwi'n byw ym Mhontrhydfendigaid, mae gen i ddau o blant a Chymraeg yw fy iaith gyntaf. Fy hobiau i yw helpu fy ngŵr ar y fferm deuluol, gan helpu'r clwb ffermwyr ifanc lleol, marchogaeth ceffylau a chystadlu mewn sioeau lleol.

  • Molly

    Cynorthwyydd Dan Hyfforddiant

    Molly ydw i! Rwy'n dod o Barcelona, ​​Sbaen ac wedi bod yn byw yn Nhregaron ers 3 mlynedd a hanner. Rwy’n cwblhau fy NVQ Lefel 3, ac yn fy amser hamdden rwy’n chwarae pêl-droed i Tregaron Turfs Ladies. Rydw i wedi bod yn gweithio yng Nghylch Meithrin Pontrhydfendigaid ers mis ac yn teimlo mor ffodus i fod yn rhan o dîm mor arbennig.

  • Gemma

    Staff Banc

    Fy enw i yw Gemma Rwyf wedi bod yn gweithio yng Nghylch Meithrin Pontrhydfendigaid ers 2022 fel staff banc. Rwy'n byw ger Pontarfynach gyda fy merch a arferai hefyd fynychu'r Cylch ac wrth ei bodd. Fy hobïau yw cerdded a threulio amser gyda fy merch.

Cysylltwch â ni.

ebost: cylchmeithrinbont@hotmail.com

“Mae’r gofal mae ein plentyn yn derbyn yn Cylch yn un arbennig. Mae e’n dysgu llawer ac maent wastad mor gefnogol.”

“Mae S wedi magu hyder ac wedi dysgu cymaint ers mynd i Cylch.”

“Mae E wir wedi mwynhau ei chyfnod yn y Cylch Meithrin, ac mae gwylio ei datblygiad yn blodeuo wir wedi bod yn arbennig. Hoffwn ddiolch i bawb yn y Cylch Meithrin am bob help a chefnogaeth rydych wedi’i roi i helpu E i dyfu.”

“Roedd yr arweinydd ac aelodau’r staff i gyd wastad yn barod i drafod unrhyw bryderon.”